Wednesday 18 October 2017

Pawb a’i Le: Adeiladu ar gryfderau’ch cymuned

Ym mis Gorffennaf 2017 ail-lansiodd Cronfa Loteri Fawr Cymru ei rhaglen grant Pawb a’i Le sy’n agored i geisiadau rhwng £10,001 a £500,000 ar gyfer prosiectau cymunedol sy’n para hyd at bum mlynedd. Gallwch ddarllen am y newidiadau yma . Un o’r newidiadau allweddol yw ein bod yn gofyn i bob ymgeisydd ddangos i ni sut mae eu prosiect yn ffitio gyda thair thema:
  • pobl yn arwain,
  • seiliedig ar gryfderau a
  • chysylltiedig
I helpu esbonio’r rhain yn fanylach, rydym yn cyhoeddi cyfres o flogiau i helpu amlinellu beth a olygwn wrth bob thema. Gallwch ddarllen am beth mae ‘pobl yn arwain’ yn ei olygu yma. Ar gyfer y postiad hwn, gofynnom i reolwr ariannu Derek Preston-Hughes ddweud ychydig yn fwy wrthym am brosiectau sy’n seiliedig ar gryfderau.

No comments:

Post a Comment