Oes gennych chi syniad am brosiect a fydd yn hybu’r amgylchedd yn eich cymuned?
Rydym yn falch o gyhoeddi bod rownd gyntaf 2019-20 Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi bellach ar agor i geisiadau.
Mae’r gronfa ar gael i ymgeiswyr sy’n cynnal gweithgaredd o fewn 5 milltir i safle tirlenwi neu drosglwyddo gwastraff cymwys – gweler y map yma i weld a ydych yn gymwys i ymgeisio. O’r dudalen hon gallwch hefyd weld tudalennau eraill y cynllun i gael rhagor o wybodaeth a darllen arweiniad y cynllun.
Mae’r cynllun yn ariannu prosiectau sy’n canolbwyntio ar Fioamrywiaeth, Lleihau Gwastraff a Dargyfeirio Gwastraff o Safleoedd Tirlenwi a Gwelliannau Amgylcheddol Ehangach.
Rydym wedi cynnal dwy rownd o’r gronfa hyd yma ac wedi ariannu prosiectau ardderchog sy’n gwella ac yn hybu’r amgylchedd yn eu hardal leol gyda chymorth y gymuned. O fele’r coed i ailddefnyddio hen ddeunyddiau plastig, mae gweithgareddau lu ar waith ledled Cymru.
Mae’r ffenestr ymgeisio ar agor am 12 wythnos, a’r dyddiad cau yw Gorffennaf 21 2019 (23:59).
Rydym yn cael llawer iawn o geisiadau sy’n gwneud y broses ariannu’n un gystadleuol iawn. Os hoffech gymorth ac arweiniad i ddatblygu prosiect gallwch gysylltu â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol yn rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru yma.
Os oes gennych gwestiwn am Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi cysylltwch â Thîm Cronfeydd Grant WCVA drwy ebostio ldtgrants@wcva.org.uk
Have you got a project idea which will enhance the environment in your community?
We are pleased to announce that the first round of 2019-20 Landfill Disposals Tax Communities Scheme (LDTCS) is now open for applications.
The fund is open to applicants carrying out activity within 5miles of an eligible landfill or waste transfer site – view the map here to check if you’re eligible to apply. From this page you can also view the scheme’s other webpages for further information and the scheme guidance.
The scheme funds projects with focusses on Biodiversity, Waste Minimisation and the reduction of Waste to Landfill and Wider Environmental Enhancements.
We’ve run two rounds of the fund so far and have funded some great projects making positive environmental enhancements in their locality with the support of the community. From pine martens to reuse of discarded plastics, there is a variety of activity happening across Wales.
There is a 12-week application window, the closing date is 21 July 2019 (23:59).
We receive a high number of applications which makes the funding process very competitive. If you would like support and guidance in the development of a project you can contact your local Third Sector Support Wales CVC here.
If you have any questions about LDTCS please get in touch with the WCVA Grant Funds Team at ldtgrants@wcva.org.uk
(Source: WCVA)
No comments:
Post a Comment