Don’t miss out! The deadline for the second round of the Landfill Tax
Communities scheme is the 18th January 2019 (23:59).
Grants of between £5,000 and £50,000 will be
available for projects that meet the scheme criteria. WCVA may also award a
grant to one nationally significant project with a value of between £50,000 -
£250,000. The application process can be viewed on WCVA’s website – https://www.wcva.org.uk/funding/landfill-disposals-tax-communities-scheme/application-process
From here you will find information on how to
access the application forms on eTender Wales. Please note there is one form
for the main grants and a separate one for the nationally significant grant.
The Scheme encourages activities that help
native wildlife and restore, maintain and enhance natural habitats, create
community green space, and encourage prevention, re-use and recycling of waste,
including food waste and composting initiatives. It will also fund the creation
of green infrastructure – such as allotments, hedges, green roofs, parks and
gardens – improvements to community facilities and activities to bring
neglected and run-down areas back into community use.
Applications are welcomed from all sectors.
Check out the scheme guidance document on the website for more information
about what the scheme will fund.
Ewch amdani! Y dyddiad cau ar gyfer ail rownd cynllun Cymunedau y Dreth
Tirlenwi yw 18fed Ionawr 2019 (23:59).
Bydd grantiau rhwng £5,000 a £50,000 ar gael
i brosiectau sy’n cyd-fynd â meini prawf y cynllun. Mae’n bosib y bydd WCVA
hefyd yn dyfarnu grant i un prosiect o arwyddocâd cenedlaethol gwerth rhwng
£50,000 a £250,000. Mae manylion y broses ymgeisio ar gael ar wefan WCVA - https://www.wcva.org.uk/funding/landfill-disposals-tax-communities-scheme/application-process?seq.lang=cy-GB
Ar y dudalen honno ar y wefan ceir gwybodaeth
hefyd am sut i gael at y ffurflenni cais ar eDendro Cymru. Sylwch y ceir un
ffurflen ar gyfer y prif grantiau a ffurflen ar wahân ar gyfer y grant o
arwyddocâd cenedlaethol.
Mae’r Cynllun yn annog gweithgareddau sy’n
helpu bywyd gwyllt cynhenid ac sy’n adfer, yn cynnal ac yn hybu cynefinoedd
naturiol, yn creu mannau gwyrdd cymunedol, ac yn annog atal, ailddefnyddio ac
ailgylchu gwastraff, gan gynnwys mentrau gwastraff bwyd a chompostio. Bydd
hefyd yn ariannu mentrau i greu seilwaith gwyrdd – megis rhandiroedd garddio,
gwrychoedd, toeau gwyrdd, parciau a gerddi – gwella cyfleusterau cymunedol a
gweithgareddau i’w gwneud yn bosib i gymunedau ailddechrau defnyddio llefydd
diffaith sydd wedi’u hesgeuluso.
Croesawir ceisiadau o bob sector. Darllenwch
ddogfen ganllaw’r cynllun ar y wefan i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd
y cynllun yn ei ariannu.
(Source: WCVA)
No comments:
Post a Comment