Monday, 13 November 2017

Cyfoeth Naturiol Cymru Digwyddiadau Comisiynu/Natural Resources Wales’ Commissioning Events

Galwad Agored Cyntaf Cyfoeth Naturiol Cymru am brosiectau dan y Dull Comisiynu Newydd – Digwyddiadau Rhanddeiliaid Allanol
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn datblygu dull newydd o gomisiynu i glustnodi’r heriau, fel y’u nodir yn y Cynllun Adnoddau Naturiol, yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SONARR) a Datganiadau Ardal a Llesiant, y mae angen inni fynd i’r afael â hwy drwy gydweithio â’n gilydd. Fel rhan o’r dull hwn, bydd cyllid a chymorth arall yn cael eu neilltuo i heriau ym mhob un o’r ardaloedd sy’n destun Datganiadau Ardal Cymru ac i gamau sydd yn well eu gweithredu unwaith yng Nghymru.

Rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i gyflwyno’r heriau ac i lansio galwad am fynegiannau o ddiddordeb. Bydd 3 digwyddiad ledled Cymru a gweminar (dydd Mawrth 5 Rhagfyr) i’r sefydliadau hynny na fydd yn gallu mynychu’r digwyddiadau a gynigir.

Canolbarth Cymru: Dydd Gwener 24 Tachwedd 2017
Lleoliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ffordd Penglais, Aberystwyth SY23 3BU
Amser: 13:00 – 16:00

Gogledd Cymru: Dydd Llun 27 Tachwedd 2017
Lleoliad: Canolfan Fusnes a Chynadleddau Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst LL26 0DF
Amser: 13:00 – 16:00

De Cymru: Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2017
Lleoliad: TechHub Abertawe, 221 Stryd Fawr, Abertawe SA1 1NWAmser: 13:00 – 16:00

I arbed le:
24 November, National Library of Wales, Aberystwyth
27 November, Glasdir Business and Conference Centre, Llanrwst
28 November, Tech Hub, Swansea


Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys trosolwg o dirlun deddfwriaethol newydd Amgylchedd Cymru; yr heriau a nododd Cyfoeth Naturiol Cymru y gellir eu datrys yn unig mewn cydweithrediad â phartneriaid allanol; eglurhad o’r broses ymgeisio; a sesiwn holi ac ateb. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig ac felly 2 gynrychiolydd ar y mwyaf o bob sefydliad a all fynychu.

Natural Resources Wales’ First Open Call for projects under the new Commissioning Approach – External Stakeholder Events

Over the past year, NRW has been developing a new commissioning approach to identify the challenges, as set out in the Natural Resource Plan, the State of Natural Resources Report (SONARR) and Area and Wellbeing statements, that we need to work in collaboration to address. As part of this approach, funding and other support will be allocated to challenges in each of the areas covered by Wales’ Area Statements and to actions that are best delivered once for Wales.

We are holding a series of events to introduce the challenges and launch a call for expressions of interest. There will be 3 events across Wales and a webinar (Tuesday 5th December) for those organisations unable to attend the events on offer.

Mid Wales: Friday 24th November 2017

Location: National Library of Wales, Penglais Road, Aberystwyth SY23 3BU
Time: 13:00 – 16:00

North Wales: Monday 27th November 2017
Location: Glasdir Business & Conference Centre, Plas yn Dre, Llanrwst LL26 0DF
Time: 13:00 – 16:00

South Wales: Tuesday 28th November 2017
Location: TechHub Swansea, 221 High St, Swansea SA1 1NWTime: 13:00 – 16:00

These sessions will include an overview of the new legislative landscape of the Welsh Environment; the challenges that NRW has identified that it can only solve in collaboration with external partners; an explanation of the application process; and a session for questions and answers. There is a limited number of places available and therefore a maximum of 2 representatives per organisation may attend. 

No comments:

Post a Comment