Rhaglen Ariannu Newydd yn Lansio 22 TachweddTACHWEDD 20, 2017

Rydym yn lansio rhaglen ariannu newydd o’r enw Helpu Teuluoedd sy’n Gweithio yng Nghanolfan Gymunedol Butetown, Caerdydd, ddydd Mercher yma. Bydd y lansiad yn dechrau am 13.00 ac mae tocynnau ar gael ar-lein yma: https://goo.gl/KWXTup.Hefyd, bydd digwyddiad bwrdd crwn yn Y Rhyl ar 1 Rhagfyr i siarad trwy’r rhaglen newydd gyda’n swyddogion ariannu https://goo.gl/KqjMGb.Bydd Helpu Teuluoedd sy’n Gweithio’n darparu ariannu ar gyfer prosiect sydd wedi’u heffeithio gan dlodi ‘tra’n gweithio’. Rydym yn cydnabod bod nifer cynyddol o bobl yng Nghymru sydd wedi’u heffeithio gan dlodi, er gwaetha’r ffaith eu bod yn gweithio. Rydym yn disgwyl i’r gronfa helpu aelwydydd gydag o leiaf un person sydd â swydd amser llawn neu ran-amser neu sy’n hunangyflogedig ac yn magu o leiaf un plentyn o dan 18 oed.Mae’r rhaglen ariannu newydd yn ymgymryd â rôl weithredol wrth annog prosiectau i ennyn diddordeb pobl trwy gynnig model gwahanol ar gyfer y gronfa hon. Rydym eisiau gweld bod y bobl a fydd yn defnyddio’r gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth gyfartal gyda’r bobl sy’n ei ddarparu.Bydd manylion llawn y rhaglen newydd a sut i ymgeisio ar gael ar wefan y Gronfa Loteri Fawr o 22 Tachwedd 2017. Rhaid i ffurflenni cais wedi’u cwblhau fod gyda ni erbyn hanner dydd ar 15 Mawrth 2018 a bydd y prosiectau llwyddiannus yn cael eu hysbysu ym mis Gorffennaf 2018.

Helping Working Families: new programme, launching 22 November
NOVEMBER 20, 2017

No comments:
Post a Comment