Monday 1 June 2015

PQASSO FOR WALES - OPPORTUNITY FOR ORGANISATIONS

Annwyl pawb,

A ydych chi am gryfhau llywodraethu, darparu gwasanaethau gwell i ddefnyddwyr, gwella arferion gweithredu a dangos canlyniadau yn well yn eich mudiad trydydd sector chi?


Mae prosiect PQASSO i Gymru yn cynnig y cyfle i 125 o fudiadau trydydd sector weithredu PQASSO fel ffordd o gyflawni’r rhain. Gall PQASSO eich helpu hefyd i ddangos i gyllidwyr a chomisiynwyr fod eich mudiad yn addas i’r diben.

Mae NCVO yn chwilio am gymysgedd o fudiadau o leoliadau daearyddol amrywiol, o wahanol feintiau, ac sydd ar waith mewn meysydd amrywiol, i gymryd rhan yn y prosiect. I ddatgan diddordeb, llenwch ffurflen Datgan Diddordeb.   

Mae’r pecyn Datgan Diddordeb yn cynnwys:

·         Cyflwyniad
·         Adran 1 sy’n egluro beth fydd cymryd rhan yn y prosiect yn ei olygu
·         Adran 2 Ffurflen Datgan Diddordeb
Cliciwch yma i ddarllen y pecyn Datgan Diddordeb.

Bydd cyflwyno ffurflen Datgan Diddordeb yn ein galluogi i asesu a yw’ch mudiad yn bodloni meini prawf cymhwysedd y prosiect, ac yn ein helpu i sicrhau bod cymysgedd da o fudiadau yn cymryd rhan.

Nid yw cyflwyno’r ffurflen Datgan Diddordeb ynddo’i hun yn gwarantu y bydd eich mudiad yn gallu cymryd rhan.

Y dyddiad cau i gyflwyno’r ffurflen Datgan Diddordeb yw 5.00 o’r gloch brynhawn dydd Gwener, 17 Gorffennaf 2015.

Ni allwn warantu y byddwn yn cynnal rownd Datgan Diddordeb arall.

Mawr obeithiwn y byddwch yn ystyried y cyfle cyffrous hwn i’ch mudiad neu’n ein helpu i hyrwyddo’r cyfle hwn i’ch aelodau a’ch rhwydweithiau.

Gyda diolch,

Heledd.




Dear all,

Do you want to strengthen governance, deliver better services for users, improve operating practices and better demonstrate outcomes in your third sector organisation?


The PQASSO for Wales project is offering 125 third sector organisations the opportunity to implement PQASSO as a way to achieve these. PQASSO can also help you demonstrate to funders and commissioners that your organisation is fit for purpose.

NCVO is looking for a mixture of organisations from a range of geographical locations, of differing sizes, and engaged in a variety of fields, to take part in the project. To express an interest, please complete theExpression of Interest form.   

The Expression of Interest pack includes:

·         Introduction
·         Section 1 which explains what taking part in the project will involve
·         Section 2 Expression of Interest form
Click here to read the Expression of Interest pack.

Submitting the Expression of Interest formwill enable us to assess if your organisation meets the project’s eligibility criteria, and help us to make sure we have a good mixture of organisations taking part.

Submitting the Expression of Interest form does not in itself guarantee that your organisation will be able to take part.

The deadline for submitting the Expression of Interest form is 5:00pm on Friday 17 July 2015.


We cannot guarantee that we will hold another Expression of Interest round.

We hope that you will consider this exciting opportunity for your organisation, or help us to promote this opportunity to your members and networks.

With thanks,

Heledd.
Heledd Kirkbride (siaradwr Cymraeg)
Swyddog Ymgysylltu PQASSO i Gymru, NCVO
PQASSO i Gymru – cryfhau ansawdd yn y trydydd sector

Heledd Kirkbride (Welsh speaker)
PQASSO for Wales Engagement Officer, NCVO
PQASSO for Wales – strengthening quality in the third sector

07890 637865 | 029 2043 1716

Dilynwch ni | Follow us @PQASSOcymru

No comments:

Post a Comment