Monday 19 October 2015

GROW WILD FUNDING TO HELP COMMUNITIES BLOOM

GROW WILD FUNDING TO HELP COMMUNITIES BLOOM 
Organisations and community groups across Wales are being invited to apply for funding of £1,000 to £4,000 from Grow Wild to create inspiring spaces.
Supported by the Big Lottery Fund and led by Royal Botanic Gardens Kew, Grow Wild motivates communities, friends, neighbours and individuals to come together to transform local spaces by sowing, growing and enjoying UK native wild flowers. 
Over the next year, Grow Wild has more than £200,000 to award to not-for-profit groups who put forward creative ideas that revamp communal spaces. 
Grow Wild is looking for projects that use native wild flowers and plants innovatively to bring colour and wildlife to their local area. They should offer volunteering opportunities to young people aged 12-25 and also to over 25s. Projects should also think creatively about sharing stories, photos and activities from their spaces. 
Over 2014-15, Grow Wild has built a network of over 150  projects including; the reimagining of a train station entrance an interactive tour of planted spaces, a sensory garden for people with disabilities; as well as projects involving streetscapes, woodlands, housing estates and murals.
Applications for 2016 funding must be received by 1 December 2015. A panel of experts will then help decide who will receive funding. Successful groups will be notified in February 2016 ready to start their project in March and finish by October 2015.
If your group has an inspiring idea to connect people to nature, then apply before 1 December 2015 for your chance to join our lively network. First, please read the community project application guidelines for 2016 funding: https://www.growwilduk.com/community-projects/application-guidance    https://rgbkew-pswmv.formstack.com/forms/2016_wales_cpa
************************************************************
ARIAN TYFU'N WYLLT I HELPU CYMUNEDAU FLODEUO
Mae gwahoddiad i fudiadau a grwpiau cymunedol ledled Cymru wneud cais am arian rhwng £1,000 a £4,000 gan Tyfu'n Wyllt i greu llecynnau ysbrydoledig.
Gyda chefnogaeth gan y Gronfa Loteri Fawr a than arweiniad Gerddi Botaneg Brenhinol Kew, mae Tyfu'n Wyllt yn cymell cymunedau, cyfeillion, cymdogion ac unigolion i ddod at ei gilydd i drawsnewid llecynnau lleol trwy hau, tyfu a mwynhau blodau brodorol o wledydd Prydain.
Dros y flwyddyn nesaf, mae gan Tyfu'n Wyllt fwy na £200,000 i'w rannu i grwpiau nid er mwyn gwneud elw sy'n cyflwyno syniadau creadigol ar gyfer ailwampio llecynnau cymunedol.
Mae Tyfu'n Wyllt yn chwilio am brosiectau sy'n defnyddio blodau a phlanhigion gwyllt brodorol mewn ffordd wahanol i ddod â lliw a bywyd gwyllt i'w hardal leol. Dylent gynnig cyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc rhwng 12-25 oed a hefyd i bobl dros 25. Dylai prosiectau feddwl yn greadigol hefyd am rannu storïau, lluniau a gweithgareddau o'u llecynnau. 
Dros 2014-15, mae Tyfu'n Wyllt wedi adeiladu rhwydwaith o fwy na 150 o brosiectau, gan gynnwys; ail-ddychmygu mynedfa i orsaf drenau trwy greu taith ryngweithiol o lecynnau wedi'u plannu, gardd synhwyraidd i bobl ag anableddau ynghyd â phrosiectau yn cynnwys strydweddau, coetiroedd, stadau tai a murluniau.
Rhaid derbyn ceisiadau am arian ar gyfer 2016 erbyn 1 Rhagfyr 2015. Yna bydd panel o arbenigwyr yn helpu penderfynu pwy gaiff yr arian. Caiff grwpiau llwyddiannus wybod ym mis Chwefror 2016, mewn pryd i ddechrau eu prosiect ym mis Mawrth a'i orffen erbyn mis Hydref 2015.
Os oes gan eich grŵp syniad a fydd yn ysbrydoli pobl i ymgysylltu â byd natur, yna gwnewch gais cyn 1 Rhagfyr 2015 i gael cyfle i ymuno â'n rhwydwaith bywiog.   I ddechrau, darllenwch y canllawiau ar wneud cais am gyllid ar gyfer prosiect cymunedol yn 2016: https://www.growwilduk.com/cy/content/canllawiau-ar-gyfer-gwneud-cais-yn-2016     https://rgbkew-pswmv.formstack.com/forms/2016_cymru_cpa

Maria Golightly
Grow Wild Wales Partnership Manager
____________________________________
07917 266445

c/o Federation of City Farms and Community Gardens, 46 Ninian Park Road, CardiffCF11 6JA

No comments:

Post a Comment