Wednesday 4 November 2015

Not strictly funding related but.....................

NEW: PAVO Trustee Network
2nd – 8th November 2015 is Trustees Week.
Trustees' Week is an annual event to showcase the great work that trustees do and highlight opportunities for people from all walks of life to get involved and make a difference.
The voluntary sector in Powys would come to a standstill without the support and hard work that trustees undertake, in order to enable groups and organisations to operate safely, efficiently and effectively.

Governance is an issue that affects any group, no matter what size it is.  PAVO along with the Charity Commission is wholly committed to championing good governance in the sector, and trustees play an enormous part in enabling this to happen.  In recognition of this, PAVO is setting up a Trustee Network in order to provide mutual learning and support to trustees of voluntary or community organisations operating within Powys (including charity trustees, management committee members and not-for-profit company directors).

The virtual network will ensure that members are kept up to date electronically with news, information, and developments in the field of governance and trusteeship. 
The network will also:
·         provide the opportunity for trustees to share learning and information about their experiences              in fulfilling their governance roles
·         provide a forum for determining the training and development needs of trustees.
·         allow trustees the opportunity to be consulted and feedback on strategic policy developments.
The network will meet on an annual basis, so watch this space for the date of the first meeting.

We want as many trustees as possible to sign up to become a member of the network, so don’t delay, join today!

To register your details please click on the link below:



Check out PAVO's Trusty Trustee blog today!  Go to:  http://trustypavo.blogspot.co.uk/ to see what trustee and governance is all about.



NEWYDD: Rhwydwaith Ymddiriedolwyr PAVO
Mae’r 2il i’r 8fed o Dachwedd 2015 yn Wythnos Ymddiriedolwyr.  
Mae Wythnos Ymddiriedolwyr yn ddigwyddiad blynyddol i arddangos y gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan ymddiriedolwyr, ac yn amlygu cyfleoedd i bobl o bob cefndir i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.

Byddai'r sector gwirfoddol ym Mhowys yn dod i stop heb y gefnogaeth a’r gwaith caled y mae ymddiriedolwyr yn ymgymryd ag ef, er mwyn galluogi grwpiau a sefydliadau i weithredu'n ddiogel, yn effeithlon ac effeithiol.

Mae llywodraethu yn fater sy'n effeithio ar unrhyw grŵp, waeth beth yw ei faint. Mae PAVO ynghyd â'r Comisiwn Elusennau yn gwbl ymrwymedig i hyrwyddo llywodraethu da yn y sector, ac mae ymddiriedolwyr yn chwarae rhan enfawr o ran galluogi hyn i ddigwydd. Er mwyn cydnabod hyn, mae PAVO yn sefydlu Rhwydwaith Ymddiriedolwyr er mwyn darparu dysgu a chefnogaeth gydfuddianol i ymddiriedolwyr mudiadau gwirfoddol neu gymunedol sy’n gweithredu o fewn Powys (gan gynnwys ymddiriedolwyr elusennau, aelodau pwyllgorau rheoli a chyfarwyddwyr cwmnïau nid er elw).

Bydd y rhwydwaith rithwir hon yn sicrhau bod aelodau yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf yn electronig yn cynnwys newyddion, gwybodaeth, a datblygiadau ym maes llywodraethu ac ymddiriedolaeth.
Bydd y rhwydwaith hefyd yn:
· rhoi cyfle i ymddiriedolwyr i rannu profiadau dysgu a gwybodaeth wrth iddynt gyflawni eu rolau llywodraethu.
· darparu fforwm ar gyfer pennu anghenion hyfforddi a datblygu ymddiriedolwyr.
· rhoi cyfle i ymgynghori ag ymddiriedolwyr a modd i gyflwyno adborth ar ddatblygiadau polisi strategol.

Bydd y rhwydwaith yn cyfarfod yn flynyddol, felly cadwch lygad allan am ddyddiad y cyfarfod cyntaf.
Rydym am i gymaint o ymddiriedolwyr ag y bo modd i gofrestru i ddod yn aelod o'r rhwydwaith, felly peidiwch ag oedi, ymunwch heddiw!

I gofrestru eich manylion cliciwch ar y cyswllt isod os gwelwch yn dda:

Cymrwch gip olwg ar flog ‘PAVO's Trusty Trustee’ heddiw! Ewch i: http://trustypavo.blogspot.co.uk/ i weld be’ ’di be’.

No comments:

Post a Comment